John Nash

John Nash
Ganwyd18 Ionawr 1752 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mai 1835 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
East Cowes Castle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAll Souls Church, Langham Place, Clarence House, Pafiliwn Brighton, Marble Arch Edit this on Wikidata
Am y mathemategwr o Unol Daleithiau America gweler John Forbes Nash, Jr.

Pensaer o Loegr a fu'n byw yng Nghymru am gyfnod oedd John Nash (18 Ionawr 175213 Mai 1835). Adeiladodd llawer o adeiladau enwog yn Llundain.

Cafodd ei eni yn Llundain ac astudiodd i fod yn bensaer o dan Syr Robert Taylor, ond heb fod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl etifeddu ffortiwn mawr symudodd ef i Gymru. methodd a buddsoddi'n ddoeth a doedd dim arian ar ôl erbyn 1783. O ganlyniad bu rhaid iddo weithio eto fel pensaer gan gynllunio plastai yn y wlad, a chydweithio gyda Humphry Repton, cynllunydd gerddi tirlun. Aeth Nash yn ôl i weithio yn Llundain ym 1792.

Bu'n byw ar Ynys Wyth am flynyddoedd a chafodd ei gladdu yn Cowes.

Cerflun John Nash yn All Souls Church, Llundain

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search